Y Pwyllgor Deisebau |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 11 Tachwedd 2014 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
08.59 - 10.01 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
|
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: MeetingTitle |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
William Powell (Cadeirydd) Russell George Bethan Jenkins Joyce Watson |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Jones, Funky Dragon Jones, UK Youth Ambassador 2012 -2014 and Bridgend Youth Council Gillum, Powys Youth Council Crowley, Funky Dragon |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Steve George (Clerc) Kayleigh Driscoll (Dirprwy Glerc) Kath Thomas (Dirprwy Glerc) Helen Roberts (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Cadeirydd bawb i gyfarfod y Pwyllgor. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
2 Sesiwn Dystiolaeth - P-04-597 Diogelu dyfodol Draig Ffynci, Cynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru
Atebodd Tricia Jones, Jack Gillum, Catherine Jones ac Anne Crowley, cynrychiolwyr y Ddraig Ffynci, gwestiynau'r Pwyllgor.
3 Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
3.1 P-03-150 Safonau Canser Cenedlaethol
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
· drefnu i'r deisebydd gael gwybod pan fydd dyddiad y ddadl yn y Cyfarfod Llawn wedi'i gyhoeddi;
· aros tan y ddadl yn y Cyfarfod Llawn cyn penderfynu a ddylid cymryd camau pellach neu cau'r ddeiseb; a
· gofyn i'r Gweinidog am y pwyntiau a gododd Iechyd Cyhoeddus Cymru ynghylch achosion pan fydd amheuaeth o ganser ond nid yw'n achos brys.
3.2 P-04-494 Rhaid sicrhau bod prostadectomi laparosgopig gyda chymorth robotig ar gael i ddynion yng Nghymru yn awr
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
3.3 P-04-540 Stopio rhagfarn ar sail rhyw mewn cam-drin domestig
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am sylwadau pellach gan y deisebydd.
3.4 P-04-570 Argaeledd Anghyfartal o Ran Triniaethau Nad Ydynt Wedi’u Harfarnu’n Genedlaethol Gan GIG Cymru
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gyfeirio'r mater at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i ofyn a fyddai'n barod i ystyried cynnal ymchwiliad yn unol â chais y deisebwyr.
3.5 P-04-586 Holl staff GIG Cymru i gael eu talu ar y gyfradd Cyflog Byw o £7.65 yr awr o leiaf
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am sylwadau pellach gan y deisebydd ar yr ohebiaeth a ddaeth i law.
3.6 P-04-487 Cynllun benthyg blaendal Llywodraeth Cymru i’r rheini sy’n prynu tŷ am y tro cyntaf yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am farn y Gweinidog ar sylwadau pellach y deisebydd.
3.7 P-04-598 Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Anabledd
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am sylwadau pellach gan y deisebydd ar yr ohebiaeth a ddaeth i law.
3.8 P-04-516 Gwneud gwyddor gwleidyddiaeth yn rhan orfodol o addysg
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am sylwadau pellach gan y deisebydd ar yr ohebiaeth a ddaeth i law.
3.9 P-04-559 Ymwybyddiaeth mewn Ysgolion Uwchradd o Hunan-niweidio
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
3.10 P-04-562 Canolfan Etifeddiaeth Caernarfon
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am sylwadau pellach gan y deisebydd ar yr ohebiaeth a ddaeth i law.
3.11 P-04-585 Newidiadau i gyffordd yr A494/A470 yn Nolgellau
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am sylwadau pellach gan y deisebydd ar yr ohebiaeth a ddaeth i law.
3.12 P-04-594 Apêl Cyngor Cymuned Cilmeri ynghylch y Gofeb i’r Tywysog Llywelyn
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am sylwadau pellach gan y deisebydd ar yr ohebiaeth a ddaeth i law.
3.13 P-04-599 Effaith Ardrethi Domestig ar Lety Hunan Arlwyo
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Gynghrair Twristiaeth Cymru, sef 'Llais y Diwydiant Twristiaeth' yng Nghymru, i ofyn a yw'n rhannu pryderon y deisebydd neu a all gynnig unrhyw sicrwydd.
3.14 P-04-572 Grantiau ar gyfer Gwrthsefyll Llifogydd
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at:
· Cyfoeth Naturiol Cymru, i ofyn am farn ar yr ohebiaeth hyd yn hyn;
· Cymdeithas Yswirwyr Prydain, i ofyn am farn ar y premiymau yswiriant ar gyfer tai sydd wedi cael llifogydd o'r blaen ond sydd mewn ardaloedd risg isel o ran llifogydd; ac
· archwilio a oes unrhyw waith blaenorol wedi'i wneud gan Bwyllgor arall ar Wrthsefyll Llifogydd.
3.15 P-04-579 Adfer cyllid ar gyfer monitro Gwylogod Ynys Sgomer
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am sylwadau pellach gan y deisebydd ar yr ohebiaeth a ddaeth i law.
3.16 P-04-583 Gwahardd Tyfu a Gwerthu unrhyw Hadau / Bwydydd a Phorthiant Anifeiliaid / Pysgod GM yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
· ofyn i'r Dirprwy Weinidog ymateb i sylwadau'r deisebydd a hefyd i egluro'r gwrth-ddweud ymddangosiadol rhwng polisi Llywodraeth Cymru i gynnal dull cyfyngol a gofalus o ran tyfu cnydau GM a barn yr Asiantaeth Safonau Bwyd nad oes unrhyw reswm i dybio bod porthiant anifeiliaid GM yn peri mwy o risg i dda byw ar ffermydd o'i gymharu â phorthiant anifeiliaid confensiynol; a
· chysylltu â Chlerc y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd am y gwaith blaenorol ar y mater, er mwyn ei rannu gyda'r deisebydd.
3.17 P-04-595 Llwybr Foresight
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am sylwadau pellach gan y deisebydd ar yr ohebiaeth a ddaeth i law.
3.18 P-04-592 Pleidleisiau gan Ddinasyddion sy’n Rhwymol yn Ddemocrataidd ar Lefel Llywodraeth Leol
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am sylwadau pellach gan y deisebydd ar yr ohebiaeth a ddaeth i law.
3.19 P-04-596 Achub Gorsaf Dân y Porth – MAE’R EILIADAU’N CYFRIF!
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am sylwadau pellach gan y deisebydd ar yr ohebiaeth a ddaeth i law.